{ko: ir plwu ni rhow/ r fo vn serch yn ddrwg erioed}
1 Plygu rhac llid yr ydwyf
2 pla ar oll verched y plwyf
3 am na chefais drais drowsoed
4 ohonvn yr vn erioed
5 na morwyn vwyn a venaig
6 na merch bach na gwrach na gwraig
7 pa rusiant pa ddireidi
8 pa vethiant na vynnant vi
9 pa ddrwg oedd i vvn ddiwael
10 ynghoed tywylldew vynghael
11 {nid oedd gywilidd iddi
12 yngwely dail yngweled i}
13 nibu amser na charwn
14 nid mor ddrud vn hud a hwn
15 ynad gwyr anwyd garwy
16 yn y dydd ai vn ai dwy
17 ac er hyny nid oedd nes
18 ym gael vn no'm gelynes
19 ni bu sul yn Llan Badarn
20 ni bvm ag eraill ai barn
21 am wyneb gu ar ddyn goeth
22 am gwegil ar Dduw gwiwgoeth
23 achwedi'r hir edrychwyf
24 dros vymhlu ar draws vymhlwyf
25 syganai y vvn beX{bevr}groyw
26 wrth arall ehudgall hoyw
27 pa ddisgwyl phol i olwg
28 gwyr i ddrem garu yn ddrwg
31 ai'n rhith hyny yw ganthaw
32 yw gair y llall gaer i llaw
29 Dauydd llwyd wyneb mvrsen
30 a gwallt ichwaer ar i ben
33 ateb ni chaif tra vo byd
34 hwtied iDdiawl beth ynvyd
35 talmvrth om rhygair rhygain
veinverch
36 tal bychan am syfrdan serch
39 dir yw ym vyned val gwr
40 yn veudwy neu'n ynvydwr
41 o dra disgwyl dysciad certh
42 drach ynghefn drych anghyfnerth
43 neur dderyw ym befrlym bar
44 bengamv eb vn gymar
D. ap Gwilim